Glain FfranconPLATTFore Sul Chwefror 8fed, yn 94 mlwydd oed, bu farw Glain yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan, gynt o Llifor, Ffordd Plas Newydd, Stryd Mwrog, Rhuthun ac wedyn yn Llys Awelon, Rhuthun.
Priod ffyddlon a chariadus y diweddar Noel Platt ac annwyl ferch y diweddar Barchedig Hywel a Nel Jones Gellifor. Cyfnither arbennig i Ifan Glyn Jones a'r ddiweddar Gwenda Owen a'u meibion a fu mor fawr eu gofal amdani. Bydd colled enfawr ar ei hôl gan ei theulu a'i ffrindiau.
Yn ôl ei dymuniad cynhelir angladd preifat yn Amlosgfa Pentrebychan Wrecsam.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Glain tuag at Gymdeithas y Clefyd Motor Neurone drwy law yr ymgymerwyr Y Brodyr Dowell, Rhuthun.
Keep me informed of updates