ErnieHATCHERYn dawel yng Nghartref Gofal Maesyfelin, Drefach, Llanybydder ar ddydd Mercher Mawrth 18fed 2026 yn 90 mlwydd oed hunodd Ernie, Coedfryn, Pontsian. Priod ffyddlon y diweddar Betty, Tad gofalus Dannie, Tony a'r diweddar Geraint, Tad-yng-nghyfraith cefnogol Liz, Eiddwen a Mair, Tad-cu balch Elenid, Enfys, Endaf, Gethin, Sioned, Gwawr a Rhodri, Hen Dad-cu annwyl Trefor, Leisa, Moc, Owain, Tecwyn, Oisín, Loti a Casi.
Gwasanaeth angladdol hollol breifat
Rhoddion os dymunir tuag at Ymchwil Canser Cymru trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffôn: 01545 590254
Keep me informed of updates