Richard MorrisOWENDymuna Gwenda, Lona, Alwyn a theulu y diweddar Richie Owen, Abergele ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch am y geiriau caredig trwy lythyrau, cardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau a fu o gysur mawr i ni fel teulu. Gwerthfawrogwn y gwasanaeth teilwng a theimladwy a gafwyd i ddathlu bywyd Richie dan ofal y Parch Brian Huw Jones, ac hefyd i Trystan Lewis am ei wasanaeth wrth yr organ. Diolchwn yn fawr iawn y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof tuag at Cancr y Prostad. Hoffwn ddiolch i staff R.W. Roberts a'i Fab, Abergele yn enwedig Hefin am y trefniadau trylwyr a gofalus ac i Carol am drefnu y lluniaeth. Gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Richard