Cedric LloydDAVIESYn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar ddydd Llun Rhagfyr 29, 2014 hunodd Cedric, Rhosawel, Brynhoffnant yn 90 mlwydd oed; priod hoff Sally, tad annwyl Eirwyn, Irene, Huw a Glenys, tadcu a hen-dadcu cariadus, brawd parchus Lenny a'r diweddar Muriel, Eric a Irene. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus a chladdedi- gaeth yn Eglwys St Ioan, Bettws Ifan dydd Sadwrn Ionawr 3, 2015 am 11.30 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at 'Cyfeillion Ysbyty Glangwili' trwy law Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ff?n 01239 851005.
Keep me informed of updates