KennethFRANCISQ.S. Priod a ffrind annwylaf Sian, tad balch, gofalus a charedig Cara, Llion a'r ddiweddar Glesni, brawd hoffus Ann a Guto, Gwen a Stephan a ffrind triw a pharchus i lawer. Angladd ddydd Mawrth, Tachwedd 22ain. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Caernarfon am 11 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Nefyn am oddeutu 1 o'r gloch y prynhawn. Derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Ken tuag at Dialysis yn y Cartref a Ward Hebog, Ysbyty Gwynedd naill ai ar y plat offrwm yn y capel, neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
                        
                                    
        	     Keep me informed of updates
         
                                    Add a tribute for Kenneth