Evan EirwynJONESYn dawel, Sadwrn Hydref 19eg, 2019, bu farw Eirwyn, The Willows, Llanybydder, gynt o Pwllcynbyd, Rhydcymerau. Cyn-gynghorydd ar Cyngor Dosbarth Caerfyrddin am 23 mlynedd. Priod hoff y diweddar Lil, tad gofalus Gary a Louise, tadcu a hen-dadcu annwyl. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Aberduar, Llanybydder dydd Gwener Hydref 25ain, am 1.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Ward Padarn Ysbyty Glangwili drwy law y trefnwr angladdau Tom Lewis, Pencader. 01559 384279
Keep me informed of updates