HuwJONESYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Mawrth, 11eg Ebrill, yn 63 mlwydd oed, hunodd Huw, Penbryn, Felinwen, Caerfyrddin. Mab annwyl Ann a'r diweddar Cyril, brawd annwyl Sharon a Gary, wncwl arbennig Siôn, Elis, Lowri a Sara a hen-wncwl hoffus. Angladd Gyhoeddus ddydd Llun, 24ain Ebrill 2023 yn Eglwys Llanfihangel Uwch Gwili, Felinwen am 11.00 y bore. Blodau'r teulu'n unig. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at: 'Prostate Cancer UK' neu 'Meddygfa Tywi' trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG 01267 237100
Keep me informed of updates