Lona ElunedOWENGorffennaf 3, 2022 Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref 4 Glanrafon Bungalows, Llanberis, yn 79 mlwydd oed. Priod y diweddar Bobby, mam gariadus Stephen, Pat, Yvonne a Colin a mam yng nghyfraith Karen, Ray, Clive a Wendy, nain annwyl a hwyliog Marc, Joseph, Chris, Yasmin, Gwenan, Hanna, Leah a Sion Huw a hen nain Bella. Chwaer hoff Betty, Llifon a'r diweddar Len. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Bangor. Dim blodau ond os dymunir derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Ymchwil Canser Cymru. Ymholiadau E W Pritchard 62 Stryd Fawr Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates