DorothyTHOMASYn dawel ar Fai 7, 2015, yng nghartref nyrsio Hengoed Court, wedi dioddef strôc ym mis Ionawr, hunodd Dorothy, 91 oed, Heol Clasemont, Treforys, hoff briod y diweddar Gwyn, modryb annwyl Jean, Wynne a Meryl a chyn Brifathrawes Ysgol y Babanod Pentrepoeth. Cynhelir yr angladd ddydd Gwener, Mai 22, am 2 o'r gloch yn Amlosgfa Abertawe, Treforys. Blodau'r teulu yn unig, ond, os dymunir, derbynnir rhoddion at "The Stroke Association" trwy law Graham J Sullivan, Cartref Angladdau Ty-Hedd, Heol Mynydd Garnllwyd, Treforys, SA6 7QG.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Dorothy