DilwynDANIELSYn dawel ar 3ydd Chwefror yn Ysbyty Glangwili, yn 65 mlwydd oed, hunodd Dilwyn, Felin Marlais, Brechfa.
Gŵr ffyddlon Helen, tad cariadus Heini, Elfed ac Elin, tad-yng-nghyfraith hoffus Geraint, Gemma a Dafydd, tad-cu arbennig Gwen, Celyn, Jac, Elliw, Lowri, Llew ac Alaw, mab annwyl Iona a'r ddiweddar Aubrey, mab-yng-nghyfraith Irene a'r diweddar John, brawd annwyl Wyn a brawd-yng-nghyfraith Helen.
Angladd dydd Gwener, 20fed Chwefror 2026. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Login, Llangynnwr, Caerfyrddin am 2.00yp.
Blodau'r teulu yn unig.
Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at: "League of Friends Glangwili Hospital" (i gefnogi gwaith yr ICU) trwy law Iwan Evans, Glanmor Evans a'i Fab Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin. SA31 2PG. 01267 237100
Keep me informed of updates