EleanorHOLLAND18 Rhagfyr 2025, yn 97 mlwydd oed, yn dawel yn ei chartref, Perthi, Tregarth, yng nghwmni ei theulu gofalgar a ffyddlon.
Gwraig gariadus y diweddar Phil Holland, mam ymroddgar a gofalus Einion a Phil, mam yng nghyfraith, chwaer Mags a'r diweddar Glenys a Jini, nain a hen nain falch. Cyn athrawes ysbrydoledig a dylanwadol.
Un annwyl a thriw i'w theulu estynedig a'i ffrindiau. Bydd bwlch enfawr ar ei hôl.
Cynhelir dathliad o fywyd Eleanor 1:30 brynhawn dydd Gwener Ionawr 16 yn Amlosgfa Bangor.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at CLAPA (cleft lip and palate uk).
Trwy law Stephen Jones Trefnwr Angladdau Cyf., Pen y Bryn, Bethesda 01248 600455
Keep me informed of updates
Add a tribute for Eleanor