EileenJONESYn dawel yn Ysbyty Bronglais ar ddydd Gwener, 30ain Mai 2025, yn 81 mlwydd oed, hunodd Eileen, Penparcau, Aberystwyth, gynt o Penlan, Trisant.
Annwyl briod y diweddar Sinnett, mam garedig a gofalus Rhys a'i ddiweddar briod Rhian, llysfam annwyl Ann a Graham, mam-gu gariadus Gruff ac Anwen, a chwaer annwyl Dewi.
Angladd ddydd Iau, 19eg Mehefin 2025. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth am 11.00yb gyda chladdedigaeth i ddilyn ym mynwent Trisant am 2.00yp.
Blodau'r teulu yn unig.
Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at: "Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Glangwili" neu "Papur Llafar y Deillion" trwy law Iwan Evans Glanmor Evans a'i Fab Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG 01267 237100
Keep me informed of updates