David Lyn ( Dafydd)JONESYn frawychus o sydyn bore Sadwrn, Mai 31ain 2025 bu farw Dafydd, Rhiwlwyd, Dolgran, Pencader. Priod hoff a ffyddlon Pauline, tad cefnogol Aled a'i briod Natalie, tadcu cariadus Daniel ac Elen, a brawd John a'r diweddar Islwyn. Angladd dydd Mawrth, Mehefin 24ain. Gwasanaeth cyhoeddus yng nghapel Tabernacl Pencader am 1.00 o'r gloch, ac i ddilyn ym mynwent y plwyf Pencader. Blodau'r teulu'n unig. Rhoddion, os dymunir, er cof am Dafydd, tuag at Uned Ddydd Gemotherapi Ysbyty Glangwili drwy law'r trefnwr angladdau Tom Lewis, Aneddle, Pencader. 01559 384279. Sieciau yn daladwy i Elusennau Iechyd Hywel Dda.
Keep me informed of updates