Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

The obituary notice of Bet JONES

Carmarthen (Caerfyrddin) | Published in: Western Mail. Notable areas: Talley (Talyllychau)

(1) Photos & Videos View all
Glanmor Evans & Son
Glanmor Evans & Son
Visit Page
Change notice background image
BetJONESYn sydyn yn ei chartref ar 19eg Awst, yn 76 mlwydd oed, hunodd Bet, Erw Hir, Caerfyrddin.

Mam gariadus Rhidian, mamgu arbennig Ifan, mam-yng-nghyfraith hoffus Nia, chwaer annwyl Geraint a'r diweddar Goronwy, chwaer-yng-nghyfraith Jean a'r ddiweddar Enid a ffrind i bawb.

Gwelir eisiau Bet yn fawr gan deulu a nifer fawr o ffrindiau.

Angladd ddydd Gwener, 4ydd o Fedi 2026. Gwasanaeth Cyhoeddus yn Elim, Ffynnonddrain, Caerfyrddin am 11.00 y bore. Claddedigaeth i ddilyn ym Mynwent Eglwys Talyllychau am 2.15yp. Croeso i chi wisgo twtsh o liw.

Blodau'r teulu yn unig.

Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at: "Adran yr Urdd Ffynnonddrain" trwy law Iwan Evans o gwmni Glanmor Evans a'i Fab Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PG. 01267 237100
Keep me informed of updates
Add a tribute for Bet
3704 visitors
|
Published: 26/08/2026
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
27 Tributes added for Bet
Report a tribute
Add your own tribute
Add Tribute
Pob cydymdeimlad i'r teulu a ffrindiau Bet.

Lonán
Donation left by Lonan Mag Fhogartaigh
04/09/2026
Comment
Diolch am y cyfle o fod yn ffrind i ti. Cysga yn dawel Bet fach. ❤️xx
Donation left by Lynwen Lewis
04/09/2026
Comment
I gofio’n annwyl am Bet. Bydd na wacter yn rhes flaen y sopranos o nawr mlan.
Cofion oddi wrth Elfed a Nia Lewis a’r teulu.
Donation left by Nia Lewis
04/09/2026
Comment
Roedd 'Bet Fach' yn gymeriad unigryw. Cydymdeimlad dwysaf gyda'r teulu, a'r gymuned roedd hi mor weithgar ynddi.
Donation left by Alun Lenny
04/09/2026
Comment
Gyda phob cydymdeimlad i'w theulu a ffrindiau.
Donation left by Eirlys Davies
04/09/2026
Comment
Atgofion lu am ffrind annwyl a thriw, oedd yn llawn hwyl a direidi. Byddwn yn gweld dy golli yn fawr. Anodd meddwl na fyddi di gyda Degoni y tro nesaf y byddwn yn cwrdd.

Cydymdeimlad llwyr â’r teulu.

Angharad, Carys, Catrin, Del, Eluned, Enid, Heulwen a Ruth. ❤️‍🩹
Carys Edwards
04/09/2026
Comment
Atgofion lu am ffrind annwyl a thriw, oedd yn llawn hwyl a direidi. Fe fyddwn yn colli dy gwmni yn fawr Bet. Anodd meddwl na fyddi di yn rhan o Degoni mwyach. Cydymdeimlad dwysaf â’r teulu.
Angharad, Carys, Catrin, Del, Eluned, Enid, Heulwen, Nia a Ruth. ❤️‍🩹
Donation left by Carys Edwards
04/09/2026
Comment
Pob cydymdeimlad

Teulu Denholm
Donation left by Margaret Denholm
03/09/2026
Comment
Donation left by Peter Powell
03/09/2026
Comment
Fe gofiwn am dy gân, dy wên a’th chwerthin iach. Pob cydymdeimlad.
Meinir a Peter
Donation left by Meinir Griffiths
02/09/2026
Comment