John WynnMEREDITH15fed Ionawr 2026
Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd , ac o Ffordd Siliwen, Bangor, yn 93 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Olwen, tad arbennig Siôn a Branwen, tad-yng-nghyfraith Janet a Richie, taid balch Jacob a Huw, brawd annwyl Margaret, Ruth a David, a brawd yng nghyfraith Luned.
Angladd cyhoeddus yn Amlosgfa Aberystwyth am 12.00yp, 6ed o Chwefror, 2026.
Bydd opsiwn i wylio'r gwasanaeth drwy we-ddarllediad hefyd. Defnyddiwch y manylion isod - Gwefan - http://watch.obitus.com, Username - becu8068 Pin - 809361
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am John tuag at Blaid Cymru.
Ymholiadau i Angladdau Enfys Funerals LTD 01248 351631 133 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NT
Keep me informed of updates