IforBAINESDymuna Enid, Iola, Menna a Dafydd a'r teulu ddiolch o galon am yr holl gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad, tad yng nghyfraith, taid, brawd, brawd yng nghyfraith ac ewythr annwyl iawn. Diolch i'r Parchedigion Gwenda Richards a Harri Parri, i Mr Rob Jones (organydd), yr Athro Peredur Lynch (teyrnged) a phawb arall a gyfrannodd tuag at y gwasanaeth hyfryd yn yr amlosgfa. Diolch yn fawr am y rhoddion hael (£1,615) tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, Nyrsys Cymunedol Ardal Penygroes a Fferyllfa Penygroes er cof am Ifor. Diolch hefyd i Iolo a'i gyd-weithwyr o gwmni Roberts & Owen am eu trefniadau trylwyr a'u gofal caredig, ac i Pant Du am drefnu'r lluniaeth yn dilyn yr angladd.
Keep me informed of updates