GeorgeBEATONBEATON - GEORGE GRAHAM. Medi 12fed, 2008. Yn dawel yn Ysbyty Eryri, wedi gwaeledd byr ac o 19, Maes y Coed, Porthaethwy yn 67 mlwydd oed. Brawd annwyl Deryck a Gwenda, brawd yng nghyfraith Sheila a David, ewythr Colin, Bethan, Sharon, Carys a Gareth, a Nell bach. Bydd colled mawr ar ol Graham i'w deulu a'i ffrindiau ffyddlon i gyd. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Mawr, Porthaethwy, dydd Iau, Medi 18fed am 11.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Menai. Blodau'r teulu agosaf yn unig, ond os dymunir derbynnir rhoddion er cof am Graham tuag at Cymdeithas Epilepsi, Ysbyty Gwynedd. Rhoddion ac ymholiadau i L. Randall, Thomas Roberts a'i Gwmni, Trefnant, Porthaethwy. LL59 5HW. Ffon. 01248 712478.
Keep me informed of updates