Rachel Iris MayDAVIESIris, Coedybryn Yn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar ddydd Mawrth 20fed Mehefin 2017 hunodd Iris, Bro Gernos, Coedybryn, Llandysul yn 91 mlwydd oed; chwaer dyner y diweddar Eric a Margaret, modryb hoffus Mark a'i briod Virginia, Andrew a'i briod Vanessa ynghyd a'u plant Laura, Simon, Hannah a Dylan; ffrind annwyl i'w theulu a'i chymuned. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yng Nghapel Coedybryn ddydd Sadwrn 1af Gorffennaf am 11.30 o'r gloch ac yna i ddilyn rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel Bwlchygroes, Llandysul. Plethdorch y teulu yn unig, os dymunir, derbynnir cyfraniadau er cof tuag at Capel Coedybryn trwy law Yr Ymgymerwr Angladdau, Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ff?n 01239 851 005.
Keep me informed of updates