EmyrDAVIESDymuna Megan, Eirian, Gerwyn a theulu Bryn Gwyn, Llangernyw ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwyd o garedigrwydd a chydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli priod, tad, tad yng nghyfraith, taid a brawd annwyl iawn, diolch hefyd am bob gofal meddygol a dderbyniodd yn ystod ei waeledd. Gwerthfawrogir y gwasanaeth cysurlon gan yr holl weinidogion, a phawb arall a gyfranodd mewn unrhyw ffordd ddydd yr angladd. Hoffem hefyd gydnabod yn ddiolchgar y cyfraniadau hael a dderbynwyd er cof tuag at Uned Stroc, Ward 14 yn Ysbyty Glan Clwyd. Diolch i Hefin ac R.W.Roberts a'i Fab am y trefniadau teimladwy a thrylwyr. Diolch o waelod calon i bawb.
Keep me informed of updates