Lilwen MairDAVIESYn dawel yn Ysbyty Glangwili ddydd Iau Mawrth 28ain, bu farw Mair, Allt y Pistyll, Llandysilio. Priod hoff Ieuan, mam annwyl Myfanwy a Geraint, mam yng nghyfraith barchus Kevin, mamgu gariadus Erin, chwaer, chwaer yng nghyfraith ac anti hoffus. Angladd gyhoeddus yng Nghapel Nebo, Efailwen, ddydd Gwener Ebrill 5ed am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er côf os dymunir tuag at Uned Gofal Critigol Ysbyty Glangwili, trwy law Dennis Jones, Trefnwr Angladdau, Maesawelon, Efailwen.SA66 7UX Ffôn 01994 419561.
Keep me informed of updates