ElwynDAVIESDerfel, Gorseddfa Criccieth. Dymuna Alwena, Bleddyn, Nia a theulu'r diweddar Elwyn Davies fu farw Medi'r 15ed yn Ysbyty Alltwen, ddiolch yn gynnes iawn am yr holl arwyddion o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt trwy'r holl gardiau cysurlawn, ymweliadau a phob caredigrwydd. Diolch hefyd am gyfraniad sylweddol iawn i Dŷ Gobaith a Chyfeillion Ysbyty Alltwen. Diolch i'r Parchedigion Iwan Ll Jones, Deian Evans, a W Bryn Williams yng Nghapel y Traeth ac yn y fynwent yn Llan Ffestiniog am wasanaethau didwyll. Diolch hefyd i'r Bon Bryn Jones am ei wasanaeth arbennig wrth yr organ ac i'r ymgymerwyr Henry Jones a'i Fab am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates