Dewi GlenEDWARDSDai Maesylan Yn dawel ar ddydd Sul, Mawrth 31ain yn Ysbyty Glangwili bu farw Dewi Glen Edwards, 25 Gorsfach, Pwlltrap yn 96 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Irene, tad annwyl Noeleen, Merle, Wyn, Meirwen, Beryl, Ivy, Eifion, Arwel a Rhian. Tad-yng-nghyfraith parchus, tadcu a hen-ddatcu hoffus. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Ramoth, Cwmfelin Mynach dydd Sadwrn, Ebrill 6ed am 2.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig. Rhoddion os dymunir i Feddygfa Taf, Hendygwyn trwy law Hywel Thomas, Trefnwr Angladdau, Brynderwen, Llanboidy. SA34 0ED. Ffon: 01994 448249.
Keep me informed of updates