ELEANOR MAY PUGHPUGH - Dymuna Dilys, merch y ddiweddar Mrs ELEANOR MAY PUGH, Angorfa Edern ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag ati yn ei phrofedigaeth o golli mam annwyl. Diolch am bob cymorth a charedigrwydd a gafwyd gan deulu, cymdogion a chyfeillion. Hefyd diolch am yr ymweliadau, cardiau a galwadau ffon a dderbyniwyd. Diolch yn ogystal i'r Parch R.E.Hughes, Nefyn a'r Parch M.J.Morris, Machynlleth am eu gwasanaeth ddydd yr angladd, hefyd i'r organyddes Mrs Jessie Williams. Diolch i feddygon Nefyn a Staff Ward Dwyfor Ysbyty Bryn Beryl am eu gofal ohoni. Diolch i'r ymgymerwyr Mr Evan Pritchard am ei wasanaeth trylwyr.
Keep me informed of updates