RobertELIASELIAS - ROBERT MORRIS. Mai 29ain, 2008, yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd ac o Glan-y-Wern, Clynnog Fawr yn 94 mlwydd oed. Annwyl briod y ddiweddar Deilwen Elias, tad doeth a gofalus Eifiona, Marian, Twm a'r diweddar Derwydd, tad yng nghyfraith Griff, Delyth a'r diweddar Guto a Margaret, taid John Llewelyn, Alun, Robin, Gwyn, Angharad, Gwenllian, Rhiannon ac Owain Dulyn, hen daid Sioned, Manon, Aron, Erin a Mirain a brawd Eifiona Williams a Richard Elias. Angladd dydd Mercher, Mehefin 4ydd. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ebenezer M. C. Clynnog Fawr am 1.30 y.p. ac i ddilyn ym Mynwent Tan-Lan, Llanfrothen oddeutu 2.45 o'r gloch. Dim blodau, ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd trwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon: 01286 660365.
Keep me informed of updates