JohnELLISTegfan, Rhos Isaf. Dymuna Eirian, Anwen a Tam ddiolch o galon i'w teulu, ffrindiau a thrigolion Rhos Isaf a fu mor driw a llawn eu cymorth i John a ni fel teulu. Diolch am y galwadau ffon, ymweliadau, cardiau a blodau hardd a dderbyniwyd. Diolch i Dr. Gwilym Evans a'r Staff ym Meddygfa Hafan Iechyd am eu cefnogaeth a'u ffyddlondeb, i'r Parchedig Gwynfor Williams a phawb a gymerodd ran yn y gwasanaeth teilwng i John, i Huw a Beti Jones, Ymgymerwyr, am eu cefnogaeth a'u gwasanaeth parchus yn ystod ein profedigaeth. Diolch am y rhoddion hael o ?2500 tuag at Gronfa Cwn Tywys y Deillion a Hosbis yn y Cartref. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates