Wynn JonesELLISELLIS - WYNN JONES, . Yn dawel yn ei gartref yn Y Trallwng ar Awst 2il 2019, yn 87 oed, a gynt o Frynelen Uchaf, Cyfronydd. Annwyl ŵr Joyce, tad hoff Huw, Siân a Siwan, tad-yng-nghyfraith Dinah, Phil a Jon, taid cariadus Iolo, Deio, Elain, Osian, Non, Jonathan Elis a Dafydd. Cynhelir Gwasanaeth Cyflwyno preifat ym Mynwent Llanerfyl gyda Gwasanaeth o Ddiolchgarwch am ei fywyd i ddilyn yng Nghapel Moreia, Llanfair Caereinion ddydd Mawrth, Awst 13eg am 2.00 p.m. Rhoddion, os dymunir, i Feddygfa Caereinion, Apêl Lingen Davies neu Ffrindiau Ysgol Cedewain. Ymholiadau i R. G. Peate, Ymgymerwr, Y Trallwng. Ffôn: 01938 559256.
Keep me informed of updates