Betty WynnEVANSEVANS - BETTY WYNN. (BET LLWYN) Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd fore Llun, Gorffennaf 4ydd. 2016 yn 88 mlwydd oed, yr olaf o blant Llwyn, Pontllyfni (gynt Trigfan a Phlas Gwilym). Priod hoff y diweddar Emyr (Tyddyn Llwydyn, Caernarfon), mam a mam yng nghyfraith gariadus Marian ac Eifion, Eifiona a Gary, Eilir a Sian, nain Beti hwyliog a charedig Huw a Lois, Gwenno a Gary, Sian a Matt, Dafydd, Tomos, Rhys a Betsan ac i fod yn hen nain unrhyw ddiwrnod, chwaer ofalgar ei diweddar frodyr John, Dafydd, Hywel, Jarret, Gwilym a'u teuluoedd. Anti Bet a ffrind cymwynasgar i lawer. Angladd ddydd Gwener, Gorffennaf 8ed. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Brynaerau M.C. Pontllyfni am 1.00 o'r gloch ac i ddilyn yn gyhoeddus ym mynwent y Capel. Dillad galar ddim yn angenrheidiol. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Bet at Gronfa Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365.
Keep me informed of updates