Margaret OlwenEVANSDymuna Mathonwy, Mererid a theulu'r ddiweddar Margaret Olwen Evans, Hafod Fawr, Pandy Tudur ddiolch am bob cydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniasant yn eu profedigaeth. Diolch i'r Parchedigion Owain Davies, Trefor Lewis a Helen Wyn Jones am eu gwasanaeth ddydd yr angladd, i Elwen Owen wrth yr organ, i'r rhai fu'n cynorthwyo mewn unrhyw fodd, ac i Popty Pen Uchaf am ddarparu'r baned. Diolch i Nyrsys Cymunedol Llanrwst am eu gofal ffyddlon ar hyd y blynyddoedd ac am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof tuag at eu gwaith. Diolch am garedigrwydd staff Ward 5, Ysbyty Glan Clwyd yn ystod ei gwaeledd. Diolch yn ogystal i Hefin o gwmni R.W.Roberts a'i Fab am ei drefniadau gofalus.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret