Thomas RhysEVANSDdydd Sadwrn, 15eg. Hydref 2022 yn sydyn yn ei gartref Gwelfryn, Llanrug yng nghwmni Tesni ei wraig gariadus a ffyddlon yn 71 mlwydd oed. Brawd hoff Richard a Judy, Tudur a Mai, Eleri a Mois, John a Carol, Hywel a Marian a brawd yng nghyfraith Dilwyn a Sherry. Ewythr arbennig a ffeind i'w holl neiaint a'i nithoedd, gor neiaint a gor nithoedd a ffrind da i lawer. Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau. Angladd ddydd Sadwrn, Tachwedd 5ed. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Rhos M.C. Llanrug am 11.30 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Rhys at Gronfa Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru a Chronfa'r Diffibriliwr yn Llanrug naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu drwy law yr Ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER. Ffon 01286 660365
Keep me informed of updates