IeuanEVANSDymuna Laura, Kevin, Fiona a'u teuluoedd ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt, yn gardiau, ymweliadau, negeseuon a galwadau ffôn yn dilyn eu profedigaeth o golli gwr, tad a thaid arbennig, Ieuan Evans o Glanypwll Cottage, Blaenau Ffestiniog yn ddiweddar. Diolch hefyd am y rhoddion hael o £200 tuag at elusen Kidney Research UK er cof am Ieu.
Diolch i'r Parchedig Roland Barnes, yr organyddes, Mr Peter Scott, Llywydd Cangen Blaenau Ffestiniog o'r Lleng Brydeinig, Mr David Williams, Cludwr Baner y Lleng Brydeinig a Ms Ceris Jones, y Biwglwr am y gwasanaeth perffaith yn Eglwys Dewi Sant, Blaenau Ffestiniog.
Diolch hefyd i'r ymgymerwyr, Pritchard a Griffiths, Tremadog am eu gwaith trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates