Margaret Helen,GAPPER.Dymuna Bob a'r teulu ddiolch o galon i'w cymdogion a'u ffrindiau am bob arwydd o gydymdeimlad yn dilyn y brofedigaeth o golli Mags. Diolch hefyd am yr holl gyfraniadau ariannol a dderbyniwyd er budd Achub y Plant. Hoffwn hefyd ddiolch i: staff Uned Banwy, Ysbyty Bronglais am eu gofal tyner; Dilwyn a Heulwen o Glyn Rees a'i Fab am eu trefniadau gofalus; y Parch. Patrick Slattery, Gareth Wyn Jones a Menna Baines am eu cyfraniadau teimladwy yn yr angladd; Janet Preston am drefnu'r blodau hyfryd ac i staff Bwyty Mawddach, Llanelltyd am baratoi lluniaeth wedi'r gwasanaeth. Hoffai Bob hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn arbennig i'r plant, Elin, Gwenan a Huw am eu gofal a'u cynhaliaeth drwy gyfnod anodd.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret