Frederick GerryGREENAWAYDymuna Lilian, John, Peter a theulu'r diweddar Frederick Gerry Greenaway o 9 Bron Dinas, Llangefni ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid annwyl. Diolch i bawb am y cardiau, y galwadau ffôn a phob ymweliad. Diolch i'r Parchedig Steve Leyland a'r Hybarch Emyr Wyn Rowlands am eu gwasanaeth ddydd yr angladd ac i'r organyddes Mrs Mavis Williams. Gwerthfawrogwyd y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Eglwys Sant Cyngar a Meddygfa Tal y Bont, Llangefni. Diolch arbennig i Melvin Rowlands yr ymgymerwr am y trefniadau gofalus ac urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Frederick