R.J.H. (Machraeth)GRIFFITHSDymuna Mrs. Catherine Griffiths, Cilfach y Bardd, Bodffordd, a'r teulu estynedig, ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfarchion caredig, a'r llu o gardiau a ddaeth i law er cof am ei phriod R. J. H. Griffiths (MACHRAETH) Diolch i'r Parchedig Huw Pritchard am ei wasanaeth a'i sirioldeb, ac i'r ymgymerwr Mr. Gareth Owen am ei hynawsedd, a'i drefniadau trylwyr. Gwerthfawrogwyd teyrnged y prifardd Ieuan Wyn o Fethesda ar ddydd yr angladd, diolch iddo am ei eiriau caredig, ac am gynnal yr Awen gyda Machraeth hyd y diwedd.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Catherine