Teyrnged i Anti Pat
Yr oeddwn i bob tro yn edrych ymlaen i yweld ag anti Pat, pan oeddwn i’n ifanc oeddwn i a dad yn mynd riwbryd amsar dolig. Oedd yna bob tro storis, bob tro tynnu coes.
Oedd gen hi ffordd efo geiria a ffor o ddeud petha’n stret heb neud i rwin deimlo’n ddrwg. Wrth i ni sgwrsio oedd hi’n gallu gwneud i ti deimlo’n gyfforddus yn syth.
Fel aeth y blynyddoedd yn eu blaen, dechreuais i ddod i weld anti pat ar ben fy hyn neu efo fy nghyfnither Gwerfyl. Oeddwn i bob tro yn teimlo croeso gannddi. Yr oedd hi’n ateb unrhyw gwestiyna oedd gan i am fy nheulu, a doedd hi ddim yn beirniadu.
Oni mor falch cafodd anti Pat gwrdd a fy merch, a gen i atgof braf pan ces i, fy merch a Gwerfyl a'n cefndryd dreulio amser chydig o oria yn ei gardd blodeuog llynedd, a Havin yn cael chwarae efo ei chefndryd bach Neli a Nico.
Hoffwn ddilyn ol troed anti Pat a cymryd pob dim efo hiwmor, dydi bywyd ddim mor ddifrifol a hynny - hyd yn oed pan fo pob dim yn teimlo’n dywyll. Yr oedd hi bob tro yn gwneud i eraill chwerthin, yn barod i siarad am pethau mae pobol eraill y genhedlaeth honno yn ei osgoi, ac mae y ffordd y gwnaeth hi fyw ei bywyd yn esiampl i ni gyd.
Diolch anti Pat am eich cwmni braf. Cywsgwch mewn hedd
Heledd
30/07/2025