MadgeGRIFFITHSHunodd yn dawel yng Nghartref Gofal Gwyddfor, Bodedern ar y 9fed o Ebrill 2026 yn 95 mlwydd oed o Walchmai. Gwraig annwyl y diweddar Gordon, mam annwyl Alan a Lynne, mam yng nghyfraith Carmen ac Elmer, nain falch Melanie, Dafydd a'i wraig Debi, Dion, Leri a'i gwr Alex, ac Emlyn, a hen nain Jac, Lola a Cali. Bydd yn golled enfawr i'w theulu a ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Morhaiaran, Gwalchmai ddydd Sadwrn Ebrill 25ain am 11.00 y gloch. Rhoddir i orffwys ym mynwent yr Eglwys.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Madge yn ddiolchgar tuag at Alzheimer's Research UK drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Anglesey, LL77 7FE Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates