Llŷr DafisGRUFFYDD12 Rhagfyr 2025. Yn dawel yn ei gartref ym Maes yr Hafod, Porthaethwy, yn 87 oed, yn dilyn salwch byr.
Priod ffyddlon a ffrind go iawn i Heulwen, tad annwyl Ifor ac Alun, tad yng nghyfraith Nicola a Sian, taid balch Ianto, Cai, Daniel ac Elin, a hen daid balch i Ceiri. Brawd Undeg a'r diweddar Geraint.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Iau, 15 Ionawr 2026 am 1:30 o'r gloch. Yn unol â dymuniad Llŷr, gofynnir i'r rheiny sy'n dod i'r amlosgfa beidio gwisgo dillad tywyll cynhebrwng. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Llŷr tuag at Dimau Achub Mynydd Llanberis a Dyffryn Ogwen. Ymholiadau drwy law'r ymgymerwyr R & J Hughes and Son Ltd, Capel Penuel Chapel, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Ffôn: 01248 723 497.
Keep me informed of updates