Jennie EirwenHUGHESLlys Cadfan, Carmel. Dymuna Cemlyn, Hefina a'r teulu ddiolch i ffrindiau a chymdogion am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam-yng-nghyfraith, nain, hen-nain a chwaer annwyl iawn. Diolch i'r meddygon, nyrsus a staff Ward Ogwen, Ysbyty Gwynedd a Ward Peblig, Ysbyty Eryri am eu gofal a'u caredigrwydd. Ein diolch hefyd i'r Parchedig Gwenda Richards am ei gwasanaeth ar ddydd yr angladd ac i Mrs Eurgain Eames yr organyddes. Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion hael o ?885 a dderbyniwyd tuag at Ap?l Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i Iolo a staff Roberts & Owen am y trefniadau gofalus a'r cymorth teimladwy ar adeg mor anodd i ni fel teulu.
Keep me informed of updates