MennaHUGHESAwel y Coleg, Y Bala (gynt o Glanrafon). Dymuna'r teulu ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth. Diolch i'r Parch Eric Greene a Nia Morgan am eu gwasanaeth ddydd yr angladd, ac i Peredur Roberts (Ymgymerwr) a swyddogion Capel Tegid am eu trefniadau. Diolch hefyd i'r rhai roddodd gymorth yn y Capel, a gyda'r bwyd. Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhoddion a dderbyniwyd er cof am Menna tuag at "Cronfa Feddygol Penllyn" a'r "Renal Patients Comfort Fund, Wrecsam". Diolch arbennig i staff a thrigolion Awel y Coleg am eu gofal a'u cyfeillgarwch.
Keep me informed of updates