GwynethHUGHESDymuna Emrys a theulu'r ddiweddar Gwyneth Hughes o Pencraig, 1 Ffordd Caergybi, Llannerch-y-medd ddiolch yn ddifuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth lem. Diolch yn fawr am y galwadau ffon, ymweliadau a'r llu o gardiau a fu yn gymorth mawr iddynt. Diolch arbennig iawn i'r Parchedig Ganon Emlyn Cadwaladr Williams am ei wasanaeth, i Donald Glyn Pritchard am y deyrnged, i Gres Pritchard wrth yr organ ac i Gor Lleisiau Llannerch am y canu bendigedig. Hefyd am y rhoddion hael o £595 a dderbyniwyd er cof i'w rhannu rhwng Home Care a Care Link ac i Melvin Rowlands yr ymgymerwr am y trefniadau trylwyr a gofalus. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwyneth