AlwynHUGHESDymuna Nerys, Lynn, Alan, Gwennan a'u teuluoedd (19 Gwelfor, Rhosgadfan) ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli priod, tad a thaid arbennig iawn. Diolch am y llu cardiau, llythyrau, galwadau ffôn, ymweliadau ac am y rhoddion hael o £1,400 a dderbyniwyd tuag at Apêl Ambiwlans Awyr Cymru ac Apêl Tŷ Gobaith er cof am Alwyn. Diolch yn arbennig i'r Parchedig Marcus Wyn Robinson am arwain y gwasanaeth, i Susan Peters am y blodau bendigedig, ac i staff Roberts & Owen am eu trefniadau trylwyr ac urddasol. Hoffwn hefyd ddiolch i Staff Ward Glyder, Ysbyty Gwynedd ac i Staff Ward Peblig, Ysbyty Eryri am y gofal arbennig a roddwyd i Alwyn.
Keep me informed of updates