Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

Acknowledgement for Janet Maureen HUGHES

Llanrwst | Published in: Daily Post.

Meredith Jones & R.Roberts & Son Funeral Directors
Meredith Jones & R.Roberts & Son Funeral Directors
Visit Page
Change notice background image
Janet MaureenHUGHESDymuna Bleddyn, Aled, Gareth a theulu y diweddar Janet Maureen Hughes, Trefin, Ffordd Berthddu, Llanrwst ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam a nain arbennig. Cafwyd cysur hefyd gan y llawer a fu'n ymweld, ynghyd 'r rhai a anfonodd air o gydymdeimlad trwy lythyr a galwad ffôn. Gwerthfawrogwn y cyfan. Diolch hefyd am y teyrngedau i Maureen ar y cyfryngau ac ar lwyfan a maes yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy. Diolch hefyd am y rhoddion hael o £6,108.80 er cof am Maureen tuag at Feddygfa Gwydir a Nyrsys Cymunedol Llanrwst. Cafwyd gwasanaeth teilwng i ddathlu ei bywyd yng Nghapel Seion, Llanrwst. Diolch i bawb a ddaeth yno ac i Amlosgfa Bae Colwyn. Diolch i'r Parchedigion Gerwyn Roberts, Richard Glyn Jones, Trefor Lewis, Helen Wyn Jones, Alan Spencer a Goronwy Prys Owen am eu gwasanaeth. Diolch i Trystan Lewis am ei deyrnged arbennig, i'r Brodyr Davies Bryniog am arwain y canu, i Heulwen Morris a Mair Williams yr organyddion, i'r ystlyswyr ac i Bopty Pen Uchaf am drefnu'r lluniaeth i ddilyn. Diolch hefyd i Robin Roberts, Meredith Jones yr ymgymerwyr am y trefniadau gofalus a phroffesiynol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Janet
1137 visitors
|
Published: 11/10/2019
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today