Annie MaryHUGHESHunodd yn dawel yn ei chartref ddydd Mercher 26ain Tachwedd 2025, yn 81 mlwydd oed, Annie Mary (Mair), Alltddu, Tregaron.
Priod annwyl David John, Mam addfwyn Dafydd, Gareth a'r diweddar Rhodri, Mam yng nghyfraith parchus Rhian, Mari a Sian, Mamgu gariadus Mali, Gwawr, Rhys, Gwenno, Osian, Anni ac Ifan.
Gwasanaeth Cyhoeddus yn Amlosgfa Aberystwyth, ddydd Sadwrn 13eg Rhagfyr 2025 am 1 o'r gloch.
Derbynnir rhoddion er cof os dymunir tuag at Nyrsys y Gymuned Tregaron a Tir Dewi, sieciau yn daladwy i "Cronfeydd Marwolaeth Ardal Tregaron" trwy law
Dylan Wyn Jones, Tom Eurfyl Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB, Ffon: (01974) 298500
Keep me informed of updates