GladysHUGHES21ain o Orffennaf 2026, yng nghwmni ei phlant yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar ôl salwch byr a wynebodd yn ddewr yn 85 mlwydd oed o Adwy'r Eifl, Rhostrehwfa.
Priod ffyddlon y diweddar Owie, mam garedig Caren, Brian ac Arwel, nain falch Chloe, Matti, Cai, Mali a Cari, mam yng nghyfraith ddiolchgar i Sian, Anna a Nici, modryb a ffrind i lawer. Colled enfawr i'w theulu a'r gymuned ehangach.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Cana, Rhostrehwfa dydd Llun, Awst 24ain am 11.00 y bore. Rhoddir i orffwys yn breifat ym Mynwent Peniel, Coedana.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er côf am Gladys tuag at Awyr Las - Gynecoleg - Ward Ffrancon (sieciau yn daladwy i gyfrif rhoddion Melvin Rowlands os gwelwch yn dda) drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates