EifionaHUGHES24 Awst 2026.
Yn sydyn ond yn dawel yn ei chartref, Maen y Bugail, Llaneilian, Amlwch yn 63 mlwydd oed. Annwyl briod Emlyn, mam dyner Eleri a'i phriod Dafydd, nain hoffus Harri a Cadi, chwaer hoff Gareth a ffrind arbennig Fiona. Gwelir ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Llun, 21 Medi. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch. Gwahoddir chwi i wisgo dillad lliwgar.
Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at R.A.B.I trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Eifiona