Ann LlwynwenHUMPHREYS27 Ebrill, 2026. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Efail Rhos, Llanfaglan, yn 92 mlwydd oed.
Priod addfwyn y diweddar John William Humphreys, gynt o Dewisbren, Dolgellau, a Mam annwyl Catrin a'i phriod Hugh, ac Emyr a'i gymar Bethan. Nain arbennig Elen a'i phriod Mike, William, Tomos a'i briod Dana, Dafydd, Owain a Glesni, a hen-nain gariadus Jac, Rhys, Ana, Cai ac Eli.
Angladd ddydd Mawrth, 2 Mehefin, 2026. Gwasanaeth cwbl breifat.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Ann tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon.
Ymholiadau i
Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates