Owen PennantHUWSAr ôl brwydr ddewr yn erbyn ei salwch, bu farw Owen Pennant Huws, Bryngwyn, Nasareth, Gwynedd, yn 82 oed yng nghartref nyrsio Meddyg Care, Porthmadog, ar 3 Mehefin 2025. Cyn-ŵr Lis, tad Bleddyn, Gwenan ac Elin, tad yng nghyfraith Delyth a Dylan, a thaid cariadus Iwan, Eilir, Catrin, Dafydd, Mai, Dewi a Swyn.
Yr oedd yn gyn-berchennog cwmni Cywion Ieir Cartref, Nebo, yn gyn-gyfarwyddwr Cwmni Recordiau Sain, yn gyn-gynhyrchydd cwmni teledu Na-Nog, ac yn gyn-gynghorydd sir dros ward Llanllyfni a Nantlle ar Gyngor Gwynedd. Gweithiodd yn ddiflino dros ei gymuned, ei wlad, a'i iaith.
Cynhelir ei angladd ar ddydd Iau, 10 Gorffennaf 2025. Gwasanaeth i'r teulu'n unig yn Amlosgfa Bangor ac yna i ddilyn, gwasanaeth coffa cyhoeddus yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes, am 1.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir yn ddiolchgar gyfraniadau er cof amdano i'w rhannu rhwng Neuadd Goffa Llanllyfni, Eisteddfod Llanllyfni, a Ward Alaw Ysbyty Gwynedd trwy law'r ymgymerwyr, Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes, LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates