JANE ELLEN ELISELIS - JANE ELLEN. Ebrill 11, 2008 yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Bethel a gynt o Nant Peris yn 93 mlwydd oed. Priod cariadus y diweddar John William Elis (Perisfab). Mam annwyl Geraint ac Alwyn a mam yng nghyfraith Anne a Nan, nain hoffus Angharad, Manon, Gwenan a Dyfan a hen nain Lois, Erin, Sion, Sioned, Steffan, Gwion a Siwan a chwaer annwyl Mrs. Mabel Roberts, Caernarfon. Angladd dydd Iau, Ebrill 17. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Cysegr, Bethel am 11 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Nant Peris. Blodau'r teulu yn unig, ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gapel Cysegr. Ymholiadau E. W. Pritchard, 62, Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates