JOHN EDWERDS DAVIESDAVIESBu farw'r Parchedig John Edwards Davies (J.E.) o 61, Heol Pontarddulais, Tycroes, Rhydaman, yn dawel nos Fawrth Ionawr 13eg yn Ysbyty Llanelli,priod ffyddlon Jennie Catherine, tad gofalus Delyth Ennaf, Olwen Hefina, Dafydd Gwylon ac Emyr Elis, tadcu a hen dadcu annwyl i Lisa, Mark a Sophie a hoff dad yng nghyfraith Yvonne.Angladd ddydd Mercher Ionawr 21ain, gwasanaeth cyhoeddus yng nghapel Moreia Tycroes am 11.00 y bore. Cleddir ei weddillion ym mynwent Capel Penllwyn, Capel Bangor am 2.30 y prynhawn.Blodau'r teulu'n unig, cyfraniadau os dymunir tuag at Cartref Parcwern, Penybanc, Rhydaman, drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, 57 Heol-y-Betws, Betws, Rhydaman,Caerfyrddin, SA18 2HE
Keep me informed of updates