DorisJONESDymuna Elwyn, Nia, Elfyn ac Ian, teulu y diweddar Doris Jones, Trewen, Lon Hawen, Abersoch ddiolch am bob arwydd o charedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn ystod eu profedigaeth sydyn o golli gwraig, mam a nain arbennig. Diolch i'r Parchedig Ioan Wyn Gruffudd am ei wasanaeth ar ddiwrnod yr angladd. Diolch yn fawr iawn i Arthur am baratoi teyrnged bendigedig ac hefyd i Mrs.Elsie Roberts am chwarae'r organ. Diolch hefyd i G.D.Roberts a'i Fab, yr Ymgymerwyr am y trefniadau trylwyr a theimladwy. Diolch yn fawr am yr holl ymweliadau, chardiau, galwadau ffon a'r rhoddion ariannol a dderbyniwyd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Keep me informed of updates