JeanJONESDymuniad Bleddyn, Rhian, Eryl a theulu'r ddiweddar Jean Jones, Coedmor, Bryn Glas, Y Groeslon, Caernarfon yw diolch yn fawr am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu colled o golli gwraig, mam a nain annwyl. Diolch i bawb am yr ymweliadau, cardiau a galwadau ffon. Diolch i'r Parchedig Gwenda Richards am ei chynhaliaeth i Jean a ninnau, ac yn arbennig iddi hi a'r Parchedig Harri Parri, Dei Tomos a Mary'r Organyddes am yr oedfa o ddiolch am fywyd Jean ar yr 2il o Ragfyr. Gwerthfawrogwyd yn fawr y rhoddion a dderbyniwyd tuag at Hosbis yn y Cartref, Gwynedd ac Ynys Mon. Diolch i'r Ymgymerwyr Huw a Bet Jones, Pontllyfni am eu trefniadau urddasol.
Keep me informed of updates